Y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol
3 Mai 2022
Cyfarfod arbennig ar-lein
Yn bresennol:
Sioned Williams AS, Cadeirydd
Simon Hoffman
Roedd aelodau Grŵp Trawsbleidiol Cymdeithas Sifil Cymru ar Hawliau Dynol yn bresennol, gan gynnwys:
Alicja Zalesinska
Charles Whitmore
Sean O'Neill
Elle Harwood
Galwyd y cyfarfod ar fyr rybudd ac roedd rhai o’r cyfranwyr ond yn gallu bod y bresennol am ran o’r cyfarfod. Nid oedd yn bosibl cofnodi’r holl unigolion a oedd yn bresennol.
Croesawodd y Cadeirydd bawb ac esboniodd fod y cyfarfod mewn ymateb i gynnig yn y Senedd a oedd i fod i gael ei drafod yn hwyrach yn y dydd mewn ymateb i fwriad a fynegwyd gan Lywodraeth y DU i ddiddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol a’i deddfwriaeth arall sy’n tanseilio hawliau dynol yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru. Dyma'r cynnig:
I gefnogi ein nod i gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol a chydraddoldeb yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru:
· Yn nodi â phryder difrifol y symudiadau mynych gan Lywodraeth y DU i leihau hawliau dynol.
· Yn credu bod cynigion Llywodraeth y DU i ddiddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol yn peryglu tanseilio amddiffyniadau allweddol i ddinasyddion ac yn codi materion cyfansoddiadol sylweddol.
· Yn credu bod Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn tanseilio hawliau cymunedau lleiafrifol ac yn peryglu'r hawl i brotestio’n gyfreithlon ac yn heddychlon.
· Yn cytuno â Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn tanseilio'n ddifrifol y broses o ddiogelu hawliau dynol ac yn arwain at ymyriadau difrifol â hawliau dynol.
· Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei dull o ymdrin â Hawliau Dynol, sy’n gam yn ôl, a'r tramgwyddo’n erbyn y cyfansoddiad yn sgil hynny.
· Yn parhau i fod yn ymrwymedig i hyrwyddo hawliau dynol, cydraddoldeb, cyfiawnder ac amddiffyn cymunedau lleiafrifol.
Trafododd y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod y cynnig ac ymddygiad Llywodraeth y DU ar hawliau dynol.
Mynegodd y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod eu pryder difrifol o ran cyfeiriad y DU ar hawliau dynol a gofynnwyd i’r Cadeirydd nodi hyn os yw’r cyfle'n codi wrth drafod y cynnig.
Penderfynodd pawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod i wahodd Cwnsler Cyffredinol Cymru a'r Gweinidog Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i gyfarfod cyffredin nesaf y Grŵp Trawsbleidiol i glywed am safbwynt Llywodraeth Cymru ar bolisïau Llywodraeth y DU ar hawliau dynol, ei hymateb i ymdrechion i geisio diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol a’i bwriadau i fwrw ymlaen â’r argymhellion a gafwyd o’r ymchwil ar SAEHR.
Gofynnodd y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod i'r Cadeirydd ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i fynegi eu pryder ynghylch y cynigion i ddiwygio'r Ddeddf Hawliau Dynol ac am 'effaith iasol' posibl y datblygiad hwn ar gynnig i hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin 2022.